Busnes>Canolfan Entrepreneuriaeth>Graduate Case Studies

Astudiaethau Achos Graddedigion

Isatou Sinera- Rheoli Lletygarwch Rhyngwladol BA (Anrh)

 

Statws: Graddio yn 2018

Daeth Isatou i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i wireddu ei breuddwyd o ddod yn entrepreneur a bwrw ymlaen â’i syniad busnes. Clywodd am y Ganolfan Entrepreneuriaeth yn ystod ei thrydedd flwyddyn ac mae'n parhau i gael cefnogaeth ganddynt fel myfyriwr graddedig.


Busnes Isatou

Syniad busnes Isatou yw diod iach adfywiol wedi'i seilio ar rysáit Affricanaidd. Dechreuodd y syniad tua 9 mlynedd yn ôl ond nid oedd hi'n teimlo mai dyma'r amser iawn iddi. Felly penderfynodd ddod i Met Caerdydd i'w helpu i ddysgu mwy ac adeiladu ei syniad. Megis dechrau y mae'r busnes o hyd, ond mae ymchwil sylfaenol wedi’i wneud i'r farchnad a bydd y ddiod yn cael ei gwerthu i'r cyhoedd yn fuan. Nod Isatou yw cyflwyno'r ddiod i ddiwydiant diod y DU yn fuan iawn.


Cefnogaeth gan y Ganolfan

Mae'r ganolfan wedi helpu Isatou i symud ei busnes o syniad i'r lefel nesaf. Mae rhyngweithio â'r ganolfan wedi ei helpu i fagu hyder yn ogystal â datblygu ei gwybodaeth. Mae’n dweud bod Dewi a Steve wedi ei helpu gyda'i chyllid, cyngor, creu cysylltiadau busnes, rhwydweithio a'i chyfeirio tuag at raglenni hyfforddi perthnasol. Mae hi hefyd wedi'i chyflwyno i ddarpar fuddsoddwyr.

Mae Isatou yn teimlo y gall hi rannu unrhyw un o'i syniadau gyda'r tîm, cael y gefnogaeth angenrheidiol a galw heibio pan fo angen.

"Maen nhw'n teimlo'n debycach i deulu, galla i ofyn unrhyw beth iddyn nhw"
"Roedd y rhaglen Paratoi i Lansio mor gyffrous!" Ymunodd Isatou â'r rhaglen fusnes 5 diwrnod sy'n rhedeg yn flynyddol a dywed ei bod wedi cyfrannu at fynd â'i chynnyrch i'r cam nesaf, gydag adborth gan y panel a'i chyd-fyfyrwyr. Enillodd £1000 ar ddiwrnod olaf y cynnig, sydd wedi helpu i dalu’r costau am y profion microbiolegol a labordy i sicrhau bod ei diod yn ddiogel i'w hyfed.

Beth nesaf?

Ei nod yw cael y cynnyrch ar y farchnad yng Nghymru ac yn y pen draw i weddill y DU. Ar hyn o bryd mae Isatou yn gwneud y ddiod o'i chegin ond y bwriad yw tyfu a gobeithio ei rhoi ar gontract allanol i gwmnïau cynhyrchu. Un diwrnod, mae’n gobeithio cael ei chwmni cynhyrchu ei hun a gwneud ei chynhyrchion mewn ffatri.


David Barton- Podiatreg BSc

 

Statws- Graddio yn 2017

Enillydd Gwobr EstNetNG 2018

Ynglŷn â David

 

Sefydlodd David y cwmni Kaydiar Ltd ochr yn ochr â'r Cyd-sylfaenydd Heather Smart, yn dilyn gwaith dylunio arloesol a wnaed wrth astudio tuag at BSc (Anrh) mewn Podiatreg yn Ysgol Meddygaeth Podiatreg Caerdydd.

Mae'r cwmni meddygol yn arbenigo'n bennaf mewn technoleg gwrthbwysau ar gyfer clwyfau a achosir gan bwysau ac yn arbennig y droed ddiabetig. Y nod yw dadlwytho pwysau ar friwiau difrifol iawn ar wyneb plantar y droed.

Ers ennill Gwobr Tech ESTnetNG 2018, mae David wedi gallu cyflymu datblygiad ei gynnyrch ac mae bellach yn gweithio ar gael y cynnyrch wedi’i weithgynhyrchu. Mae'n hyderus y bydd y cynnyrch yn apelio at nifer o farchnadoedd, gan gynnwys y GIG.


 

Dechrau Busnes ar ôl graddio o Met Caerdydd

Roedd gan David bobl lwyddiannus o’i amgylch bob amser yn ei deulu, sy'n rhedeg eu busnesau eu hunain. Yn ystod ei amser yn astudio Podiatreg roedd bob amser yn hoffi'r syniad o ddechrau ei glinig ei hun. Fodd bynnag, roedd ganddo ddiddordeb hefyd mewn dyfeisiau meddygol ac fe’i hysbrydolwyd i ddechrau ei fenter ei hun a gweld a allai ddatrys problem mewn diabetes. Dyma beth y’i sbardunodd i wneud hyn fel prosiect ar gyfer ei draethawd hir.

Profodd ei syniadau cychwynnol yng nghyfleusterau Gate Lab ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac er iddo gael canlyniadau dinod, fe wnaethant roi cipolwg iddo o botensial posibl y busnes. Yna fe’i cyflwynwyd i’r Ganolfan Entrepreneuriaeth, a wnaeth ei helpu i gynllunio busnes, gwneud cynllun ariannol, a derbyn bwrsariaethau gan y GIG. Yn y pen draw, gwnaeth y Ganolfan ei gynorthwyo hefyd i ennill lle ar raglenni allanol fel Rhaglen Cyflymu Twf Cymru (AGP) sydd wedi helpu i sicrhau buddsoddwyr angylion.

Yn ogystal, mae'r ganolfan wedi darparu cysylltiadau ar gyfer dau sylfaenydd y cwmni, fel y gallant archwilio cyfleoedd ac arbenigedd ariannol eraill.

Rhaglen Paratoi i Lansio

Ymunodd David â’r rhaglen Paratoi i Lansio, sef rhaglen fusnes 5 diwrnod sy'n cael ei rhedeg yn flynyddol i helpu myfyrwyr i ennill yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddechrau busnes. Yn dilyn cyflwyno’r cynnig busnes i banel o feirniaid ar ddiwedd yr wythnos, dyfarnwyd £1000 i David i'w helpu i ddechrau ei fenter. Gyda'r arian hwn llwyddodd i brynu deunyddiau crai ar gyfer argraffu 3D, datblygu gwefan a thalu am ddylunydd graffig.

 

Bwrsariaethau Santander

Mae Bwrsariaeth Entrepreneuriaeth Santander wedi'i chynllunio i gynorthwyo myfyrwyr i ddechrau neu dyfu eu busnes. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £150 yr wythnos am gyfnod o 13 wythnos i helpu gyda’r camau cychwynnol o sefydlu busnes. Yn dilyn cais trylwyr ... gwnaeth bwrsariaethau Santander alluogi David i barhau i wneud ymchwil a datblygu a rhwydweithio dros gyfnod o 6 mis, a oedd ar y pryd yn hanfodol ar gyfer twf ei gwmni.

"Diolch i'r bwrsariaethau hyn, mae'r cwmni bellach wedi sicrhau buddsoddiad sbarduno gan gwmni meddygol PLC sydd yn ei dro wedi caniatáu inni gynnal astudiaethau achos clinigol yn y GIG. Byddai hyn felly'n rhoi'r data hanfodol inni ei gyflwyno i'n buddsoddwr ac i'r GIG, a fydd yn hanfodol ar gyfer gwerthiannau yn y dyfodol".


Cynyddu'r Buddsoddiad

Roedd yn rhaid i David ddatblygu cynllun busnes, rhagolwg ariannol a dec sleidiau. Cefnogodd y ganolfan entrepreneuriaeth David trwy gydol y broses, gan gynnig adborth parhaus ar gyfer cyflwyno’r cynnig i fuddsoddwyr.

Maen nhw ar y cam Sbarduno bellach ac eisoes wedi dechrau gwneud sypiau bach o gynnyrch ar gyfer eu prototeip, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r GIG yn ddiweddarach yn yr haf. Mae'r sylfaenwyr a'r buddsoddwr yn bwriadu negodi rownd A buddsoddiad Kaydiar yn ddiweddarach y flwyddyn hon a thrafod cais ar gyfer eu technoleg yn y dyfodol.