Astudiaethau Achos Myfyrwyr

Maris May

Statws: Myfyriwr Cyfathrebu Graffeg.

Ynglŷn â Maris

Daeth Maris i wybod yn gyntaf am y Ganolfan Entrepreneuriaeth yn sgil digwyddiadau fel  ‘Cyfarfod a Chymysgu', 'Garej Ddigidol Google' a'r 'Her Ap 24 awr'. Yn ystod ei hail flwyddyn cymerodd fodiwl o'r enw "Gwyliwch eich Busnes eich Hun" a dechrau cyrchu'r tîm yn y Ganolfan Entrepreneuriaeth. Mae ei rhyngweithio â nhw wedi tyfu dros amser, gan roi cyfle iddi ddechrau gwneud rhywfaint o waith dylunio graffeg ar ei liwt ei hun.

"Rwyf wastad wedi eisiau gwybod mwy am fusnes ac entrepreneuriaeth, er nad ydw i erioed wedi'i astudio."


Syniad ar gyfer Gwyliwch Eich Busnes Eich Hun

Gyda’r modiwl "Gwyliwch eich Busnes eich Hun" rhoddwyd Maris i mewn i grŵp o bump, gyda dim ond 5 wythnos i ddatblygu busnes o'r dechrau. Syniad busnes y tîm oedd mynd â photeli gwydr a fyddai’n cael eu taflu fel arall a'u hailgylchu yn ddalwyr gemwaith a chanhwyllau. Roedd y cynnyrch yn boblogaidd iawn ac yn fwy llwyddiannus na’r disgwyl. Yna cysylltodd y tîm â Maris a'i hannog i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Syniadau Mawr Cymru. Gwnaeth tîm Maris fideo ar gyfer y cais, gan lwyddo i fynd trwyddo a mynd i Fangor i gyflwyno eu syniad i banel o feirniaid, ac ennill y wobr Effaith Amgylcheddol a derbyn adborth gwych.

Paratoi i Lansio

Mynychodd y tîm Paratoi i Lansio hefyd i'w helpu i ennill rhagor o wybodaeth am fusnes a chael yr holl offer y byddai eu hangen arnynt i symud ymlaen. Mae'r cwrs 5 diwrnod yn llawn gwybodaeth ac roedd yn gyfle gwych i gwrdd â myfyrwyr eraill sy'n gobeithio cychwyn busnes. Cawsant gyfle i gyflwyno ac arddangos eu gwaith, gan lwyddo i ennill rhywfaint o gyllid.
Mae'r busnes wedi cael ei ddal yn ôl oherwydd ymrwymiadau'r Brifysgol ond mae'r tîm yn parhau i fod yn awyddus i wireddu'r syniad a gweld beth a ddaw. "Mae'n eithaf cyffrous meddwl bod modiwl prifysgol wedi tyfu fel hyn, roedd yn annisgwyl iawn".


Gwaith llawrydd

Mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn cynnig cymaint o gyfleoedd a digwyddiadau ac mae rhywbeth ar droed o hyd. Byddai Maris yn cynghori unrhyw un i fachu unrhyw gyfle a ddaw oherwydd nid ydych chi'n gwybod i ble byddan nhw'n arwain. "Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf y byddai'r busnes wedi cyrraedd y fan hon, mae'n debyg y byddwn wedi chwerthin."
"Mae dod i'r digwyddiadau hyn a sgwrsio â phobl wedi fy helpu'n fawr. Mae'n frawychus ond mae'n eich galluogi i gwrdd â ffrindiau newydd, magu hyder a chael cymaint yn fwy o gyfleoedd fel gweithio ar eich liwt eich hun ar gyfer y Ganolfan Entrepreneuriaeth." Mae Maris wedi dylunio'r logos ar gyfer digwyddiadau 'Cysyniad' ac 'Ei Gyflwyno' sy'n cael eu rhedeg gan y ganolfan.


Beth nesaf?

Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau gyda'r Ganolfan Entrepreneuriaeth wedi rhoi hyder iddi wneud gwaith ar ei liwt ei hun neu i ddechrau busnes ei hun.  Mae hwn yn bendant yn opsiwn y byddai'n ei ystyried gan ei bod yn gwybod bod y gefnogaeth yno. Fodd bynnag, mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn gweithio i asiantaeth ac mae'n gwybod ei bod yn mwynhau’r math hwn o waith yn sgil lleoliadau blaenorol y mae wedi'u profi. Mae hi hefyd yn ystyried gradd Meistr - felly mae'n ymwneud â sylweddoli bod lliaws o opsiynau ar gael ar ôl y Brifysgol.
Mae rhyngweithio â'r Ganolfan Entrepreneuriaeth wedi rhoi gwybodaeth iddi am fusnes a phopeth y mae'n rhaid meddwl amdano wrth gychwyn busnes neu weithio’n llawrydd. Ond yn fwy na hyn, mae dysgu sgiliau eraill fel cyflwyno wedi bod yn hynod fuddiol, yn enwedig o fewn y diwydiant dylunio. Mae hefyd wedi rhoi hyder iddi fachu ar gyfleoedd a ddaw a pheidio ag ofni rhoi cynnig ar bethau newydd. 


Rachel Knox

Statws: Myfyriwr tecstilau ac yn gweithio tuag at radd Meistr mewn Dylunio Byd-eang.

Ynglŷn â Rachel

Anogwyd Rachel i ymhél â’r Ganolfan Entrepreneuriaeth gan y cyn-fyfyriwr a'r entrepreneur arobryn Jenny Evans a oedd yn ei dosbarth ar y pryd.

Fel rhiant sengl ac yn methu â gweithio oriau arferol na theithio'n bell, roedd Rachel eisiau edrych ar adeiladu ei busnes ei hun o amgylch yr oriau oedd ar gael ganddi a dysgu sut i wneud elw o’i gwaith.

"Mae'r profiad wedi bod yn wahanol iawn i'm disgwyliadau. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n dysgu'r ffordd orau o gychwyn busnes a sut i gael cyllid, cadw llyfrau ac ati. Yn lle hynny mae fy llygaid wedi cael eu hagor i bosibiliadau anfeidrol entrepreneuriaeth, menter gymdeithasol a phŵer rhwydweithio."

 

Buddion Rhyngweithio â'r Ganolfan Entrepreneuriaeth

Mae'r profiadau gyda'r Ganolfan Entrepreneuriaeth wedi rhoi hyder i Rachel ac wedi ehangu ei gorwelion busnes. Dywed fod ei chysylltiad â digwyddiadau a gweithdai wedi rhoi rhwydwaith llawer ehangach iddi o gyd-fyfyrwyr entrepreneuraidd a busnesau; yn ogystal â rhoi cyfeiriad iddi nad oedd hi erioed wedi’i ystyried, menter gymdeithasol.
Mae Rachel yn argymell y Ganolfan Entrepreneuriaeth i bob myfyriwr, oherwydd gall ymuno â chwrs neu weithdy gyflwyno llawer o gyfleoedd a helpu myfyrwyr i weld cyfleoedd wrth iddynt godi. Mae pob digwyddiad y mae hi wedi'i fynychu wedi bod yn hynod werthfawr ac wedi eu galluogi i ddysgu rhywbeth newydd bob tro.

 

 

Paratoi i Lansio

"Roedd y gweithdy Paratoi i Lansio yn ddwys iawn. Nid oeddwn wedi disgwyl treulio cymaint o oriau yn gweithio ar ein syniad mewn dim ond wythnos. Fe ddangosodd i mi beth sy'n bosibl pan fyddwch chi wir yn ymdrechu."

Roedd Rachel yn rhan o grŵp bach o 3 unigolyn â chefndiroedd a disgwyliadau gwahanol iawn a lwyddodd i feddwl am syniad, ymchwilio, cynllunio, ei gostio a dysgu sut i greu a darparu cyflwyniad busnes mewn 4 diwrnod. Pan wnaeth hi ymhél â’r ganolfan i ddechrau, ei syniad oedd rhedeg busnes diwydiant bwthyn o'i chartref, gan feddwl y byddai unrhyw beth mwy na hynny y tu hwnt i'w galluoedd.

Gwnaeth cymryd rhan yn Paratoi i Lansio newid ei ffordd o feddwl ac mae wedi ei galluogi i weld y cyfleoedd diddiwedd sydd ar gael yn ogystal â sylweddoli beth y mae'n gallu ei gyflawni.
 
ENACTUS

Mae Enactus UK yn sefydliad byd-eang sydd â thimau arweiniol dan arweiniad myfyrwyr mewn prifysgolion ledled y byd. Mae'n gyfle i fyfyrwyr wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol wrth ddatblygu'r sgiliau i ddod yn arweinwyr busnes sy'n gymdeithasol gyfrifol.
Cymerodd Rachel ran ym mlwyddyn gyntaf Enactus ym Metropolitan Caerdydd yn 2018 ac mae eisoes wedi dysgu rhai sgiliau amhrisiadwy fel: Sgiliau recriwtio a chyflwyno, cynhyrchu syniadau ac asesu anghenion, meddwl yn entrepreneuraidd a rheoli tîm. 

"Rwy'n teimlo’n gymaint o ran ohono yn awr, ni allaf aros i ddechrau ym mis Medi."
 
Beth nesaf?

Fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yw gorffen fy nghwrs Meistr dros y ddwy flynedd nesaf wrth weithio ar brosiectau Enactus a pharhau i adeiladu fy rhwydwaith a magu profiad. Yn y pen draw, byddwn i wrth fy modd yn rhedeg cydweithfa gwneuthurwyr a chanolfan addysg yn seiliedig ar y sgiliau tecstilau traddodiadol a gwaith ymchwil modern. Byddai'n canolbwyntio ar newid diwylliannol ac addysg defnyddwyr i weithio tuag at ddefnyddio tecstilau cynaliadwy. Bydd yn cynnwys llawer o waith a chodi arian yn ogystal â llawer o wahanol ffrydiau posibl o incwm.
 
"Ers gwneud y cyrsiau hyn ac yna gweithio ar Enactus, rwyf wedi sylweddoli nad wyf yn gyfyngedig i fod yn unig fasnachwr. Gallwn hefyd redeg busnes llawer mwy, hyd yn oed fel mam sengl."