Hafan>Busnes>Knowledge Transfer Partnerships (KTP)

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) (KTP)

Gan weithio mewn partneriaeth, gallwn eich helpu i wneud y cam strategol hwnnw i newid.

Dyma rai o'r meysydd y gallwn ni eich helpu â nhw:

  • Gwella cynhyrchion sy'n bodoli eisoes
  • Datblygu cynhyrchion newydd
  • Symleiddio prosesau gweithgynhyrchu
  • Gweithredu strategaethau busnes newydd
  • Ehangu i farchnadoedd newydd

Os oes angen i chi gael gafael ar wybodaeth a sgiliau i ymgymryd â phrosiect strategol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu a thyfu eich busnes, gallai Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) fod yn addas ar eich cyfer.


Edrychwch ar y fersiwn Gymraeg yma

Edrychwch ar y fersiwn Gymraeg yma

Gwybodaeth i Fusnesau

Beth yw Rhaglen KTP?

Mae'r rhaglen Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) wedi bod yn rhedeg ers dros 40 mlynedd ac mae'n un o brif raglenni'r DU sy'n helpu busnesau i gael yr arbenigedd a’r adnoddau sydd ar gael mewn prifysgolion. Caiff y rhaglen, sy'n cael ei chynnal ar hyd a lled y DU, ei chyllido’n rhannol gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Llywodraeth, cynghorau ymchwil ac elusennau.

Partneriaeth rhwng cwmni, prifysgol a myfyriwr graddedig (Cydymaith) yw KTP. Mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni prosiect strategol ar gyfer y busnes na fyddai'r cwmni'n gallu ei wneud heb y wybodaeth a'r arbenigedd a ddarperir gan y Brifysgol.

I cael fwy o wybodaeth am y rhaglen Partneriaeth Trosgwlyddo Gwybodaeth cliciwch yma: https://www.ktp-uk.org/

Beth all KTP ei gynnig i'ch busnes?

Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn galluogi cwmnïau i gael gafael ar adnoddau ac arbenigedd sydd eu hangen arnynt i arloesi, tyfu a gwella eu perfformiad. Mae’r KTP yn ffordd gost-effeithiol o helpu'ch sefydliad i wneud y canlynol:

  • Cael gafael ar arbenigedd technolegol, gwyddonol neu reoli i alluogi'ch busnes i ymgymryd â phrosiect strategol
  • Cael gafael ar bobl â chymwysterau uchel i arwain prosiectau newydd
  • Datblygu datrysiadau arloesol i helpu'ch busnes i dyfu
  • Cael gafael ar offer a chyfleusterau arbenigol

Faint mae'n ei chostio?

Bydd noddwr y llywodraeth yn talu 67% o gostau KTP gyda busnes bach a chanolig, a’r sefydliad yn cyfrannu'r 33% sy'n weddill; cyfradd y grant ar gyfer cwmni mawr yw 50%. Mae cyfanswm cost KTP (oddeutu £ 21,000) yn llai na chost sefydliad i recriwtio myfyriwr graddedig yn uniongyrchol, ac mae'r cwmni'n elwa ar fewnbwn arbenigedd proffesiynol a thechnegol y brifysgol, a'r defnydd o gyfleusterau prifysgol.

A yw fy nghwmni'n gymwys?

Mae'r sector preifat, y trydydd sector a rhai sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn gymwys i gael KTP. Rhaid i’r cwmni:

  • ​Gyflogi o leiaf pedwar cyflogai
  • Bod wedi bod yn gweithredu am o leiaf dwy flynedd
  • Dylai cynigion KTP gan gwmnïau mawr (dros 250 o gyflogeion) geisio hwyluso cyfranogiad busnesau bach a chanolig o fewn eu cadwyn gyflenwi
  • Mae angen i sefydliadau o’r sector cyhoeddus ddangos bod canlyniadau’r prosiect yn cael eu lledaenu'n effeithiol i sefydliadau eraill tebyg mewn rhannau eraill o'r DU

Bydd angen i'r cwmni gyflwyno ei gyfrifon archwiliedig ar gyfer y ddwy flynedd diwethaf a’r cyfrifon rheoli ar gyfer y cyfnod diweddaraf i hwyluso’r gwaith o asesu hylifedd a phroffidioldeb er mwyn cadarnhau y gall y cwmni 'fforddio' cost y KTP.

Am ba hyd mae Rhaglen KTP?

Gall KTP bara unrhyw hyd rhwng 12 a 36 mis, yn dibynnu ar faint o drosglwyddo gwybodaeth sydd ei angen. ​

Beth all Prifysgol Metropolitan Caerdydd ei gynnig?

Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd arbenigedd academaidd sy'n cwmpasu amrediad eang o feysydd pwnc o fewn ein hysgolion a'n hunedau ymchwil:

  • Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
  • Ysgol Reoli Caerdydd
  • Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
  • Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
  • Ysgol Dechnolegau Caerdydd
  • PDR –  Canolfan Ryngwladol Dylunio ac Ymchwil
  • Canolfan Diwydiant Bwyd 
  • Fablab

Mae gan y Brifysgol yr arbenigedd proffesiynol a thechnegol i helpu cwmnïau i ddatblygu eu potensial busnes, gan gynnwys:

  • Mireinio cynhyrchion sy'n bodoli eisoes, neu ddylunio cynhyrchion newydd
  • Creu marchnadoedd newydd, ar gyfer cynhyrchion newydd neu gynhyrchion sy'n bodoli eisoes
  • Gwella systemau busnes, marchnata neu weithgynhyrchu
  • Lleihau costau a gwastraff er mwyn rhedeg y busnes yn fwy effeithlon

Unwaith y byddwn wedi diffinio'ch anghenion, byddwn yn nodi dau neu ragor o bobl academaidd a fydd yn trosglwyddo eu harbenigedd technegol, ymchwil ac arloesedd i'r cwmni drwy'r Cydymaith, gan dreulio oddeutu hanner diwrnod yr wythnos yn cefnogi'r rhaglen.

Proses y KTP?

Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd broses KTP pum cam y gellir ei gweld trwy ddilyn y ddolen isod:

Proses KTP Pum Cam

Canllawiau ac Astudiaethau Achos​

​​Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth |Canllaw cam wrth gam ar gyfer busnesau​
Astudiaeth Achos |Gweithio gyda Agile Kinetic
​Astudiaeth Achos |Gweithio gyda Sevenoaks Modular
Astudiaeth Achos |Gweithio gyda Zest​​​

Beth yw Cydymaith KTP?

Bydd y Cydymaith KTP yn rheoli'r prosiect, dan oruchwyliaeth y busnes a goruchwylwyr y Brifysgol.

Buddion dod yn Gydymaith KTP

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Llwybr carlam i ddatblygu gyrfa 
  • Cyflog cystadleuol
  • Cyflogaeth o fewn disgyblaeth academaidd ddewisol
  • Gweithio gyda'r byd academaidd a’r diwydiant
  • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
  • Cofrestru ar gyfer gradd uwch yn ystod y prosiectau
  • Mynediad i ystod eang o gyfleusterau Met Caerdydd

Swyddi Cydymaith KTP

Mae swyddi cydymaith KTP yn cael eu hysbysebu trwy gydol y flwyddyn, neu gellir eu gweld hefyd drwy edrych ar dudalen Swyddi Gwag Innovate UK ar gyfer graddedigion​.



Tudalen gyllido Innovate UK