Hafan>Busnes>Commercial Units

Unedau Masnachol a Menter Ysgol

Mae nifer o unedau masnachol ar gael i ddarparu gwasanaethau bob dydd ar gyfer y cyhoedd, a chymorth diwydiannol a phroffesiynol. Maen nhw’n cynnwys:

 

Canolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol             

Mae'n cyflwyno hyfforddiant arweinyddiaeth o'r radd flaenaf i arweinwyr y dyfodol mewn sefydliadau’r sector preifat a'r sector cyhoeddus. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma​.

 

Canolfan Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd

Mae gan y Ganolfan Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd (CSHE) gyfoeth o brofiad proffesiynol o ymgynghori, gwaith ymchwil a hyfforddiant i gynorthwyo'ch sefydliad. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Gwasanaethau Cynadledda

P’un a ydych chi’n cynnal cynhadledd fawr, cwrs hyfforddi, cyfarfod, arddangosfa neu ddigwyddiad chwaraeon, mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau ar gael, gyda staff cyfeillgar a phrofiadol wrth law i sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiannus. I weld beth sydd gan Wasanaethau Cynadledda Prifysgol Metropolitan Caerdydd i’w gynnig, cliciwch yma​.

Canolfan Dadansoddi Perfformiad

Mae'r Ganolfan yn cynnal amrywiaeth o brosiectau mewn cysylltiad â chyrff allanol i gefnogi eu hanghenion dadansoddol. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Canolfan Hyfforddi Saesneg

Mae’n cynnig rhaglenni astudio arbenigol mewn Saesneg cyffredinol, Saesneg at ddibenion busnes ac academaidd, neu raglenni wedi'u teilwra. Am ragor o wybodaeth am y Ganolfan Hyfforddi Saesneg, cliciwch yma

FabLab

Gweithdy yw FabLab Caerdydd sydd â'r dechnoleg gweithgynhyrchu digidol ddiweddaraf y gellir ei defnyddio gan ddylunwyr, artistiaid a'r cyhoedd, yn ogystal â chwmnïau a sefydliadau eraill. Wedi'i achredu gan y Rhwydwaith Fab byd-eang, gall defnyddwyr fanteisio ar waith ymchwil ac arbenigedd Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd i wneud bron popeth. Am ragor o wybodaeth dilynwch y ddolen isod:

FabLab Caerdydd

Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE

Mae hwn yn cefnogi busnesau bwyd yn dechnegol ac yn weithredol, gan eu galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol yn y farchnad fyd-eang. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan allanol ar http://www.zero2five.org.uk

PDR Canolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil

Y PDR yw un o'r canolfannau ymgynghori ar ddylunio ac ymchwil cymhwysol gorau yn y byd. Dysgwch fwy am y Ganolfan drwy ymweld â'n gwefan: ww.pdr-design.com/PDR_Black_Logo_Small.png

Canolfan Astudiaethau Podiatreg Cymru

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch cshs@cardiffmet.ac.uk.

Menter Ysgol 

Mae pob un o'n Hysgolion Academaidd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu cefnogaeth fenter ar gyfer eu meysydd arbenigol. I gael rhagor o wybodaeth am Fenter o fewn ein hysgolion, cliciwch ar y cwymplenni isod:

Ysgol Gelf a Dylunio

Mae staff Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd wrthi’n datblygu’r gwaith ymchwil mwyaf blaenllaw yn y byd ac yn cydweithio’n ystyrlon â’r diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau cymunedol.

Mae’r Ysgol yn ystyried gwaith ymchwil, menter a meithrin amgylchedd dysgu cyffrous fel gweithgareddau integredig sydd o fudd i’w gilydd. Mae’r Ysgol yn benderfynol o sicrhau bod ein myfyrwyr yn teimlo budd ei rhagoriaeth ymchwil a menter, a hynny yng nghyfoeth addysg ein myfyrwyr ac yn rhagolygon gyrfa ein graddedigion.

Am ragor o wybodaeth dilynwch y ddolen isod:

Menter yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd 

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol 

Mae Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd yn cynnwys yr Adran Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon, yr Adran Datblygiad Proffesiynol ac Adran y Dyniaethau. Ar draws y tair adran hyn, mae gan ddarlithwyr ystod eang ac amrywiol o brofiad ac maen nhw’n gallu cynnig gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori cymhwysol, rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â chyrsiau byr, gan rannu'r arbenigedd hwn â phartneriaid cydweithredol ac unigolion â diddordeb. Mae'r Ysgol yn ymgysylltu â busnesau bach a chanolig (busnesau bach i ganolig) a sefydliadau cymunedol yn ogystal ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Mae amrywiaeth y sgiliau a'r wybodaeth yn dod â deinameg fywiog i'r Ysgol yr ydym yn awyddus i'w rhannu.

Am ragor o wybodaeth dilynwch y ddolen isod:

Menter yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdyddol

Ysgol Reoli

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o ganolbwyntio ar roi addysg, hyfforddiant a phrofiad i'w myfyrwyr sy'n gwella cyflogadwyedd a llwyddiant personol. Mae gweithgareddau Menter Ysgol Reolaeth Caerdydd yn canolbwyntio ar ddod â sefydliadau i'r brifysgol a mynd ag arbenigedd y brifysgol i'r byd allanol. Mae'r cyfnewidiadau staff a myfyrwyr hyn yn cynnig cyfleoedd i gymhwyso dysgu ac ymchwil ym myd gwaith a hwyluso cyfnewidiadau gwybodaeth gwerthfawr i'r ddau gyfeiriad.

I'r perwyl hwn, mae'r swyddogaeth Fenter o fewn Ysgol Reolaeth Caerdydd yn darparu:

  • Prentisiaethau Uwch

  • Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs)

  • Ymgynghoriaeth flaenllaw

  • Addysg a hyfforddiant pwrpasol gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith

  • MBA Gweithredol rhan-amser

  • Darpariaeth o bellter (gan gynnwys rhyngwladol) trwy ddysgu cyfunol

  • Rhwydweithiau Busnes - Y Fforwm a Chlwb Busnes Ysgol Reoli Caerdydd

  • Cymwysterau proffesiynol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau

  • Sesiynau blasu ac ysgolion haf

  • Cefnogaeth a nawdd i ddigwyddiadau mawreddog yng nghalendr busnes Caerdydd a'r cyffiniau e.e. Clwb Busnes Caerdydd, Gwobrau Arwain Cymru, Superwoman

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod:

Menter yn Ysgol Reoli Caerdydd

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd

Chwaraeon

Wrth ymdrechu i fod yr Ysgol Chwaraeon orau yn y DU, rydym yn ceisio arwain drwy ansawdd ein gwasanaethau, galluogi ein partneriaid a'n rhanddeiliaid, a datblygu rhwydwaith eang o bartneriaid mewnol ac allanol. Cyflawnir ein menter trwy ganolfannau rhagoriaeth penodol sy'n darparu gwasanaethau pwrpasol, cyfleoedd addysg a hyfforddiant mewn hyfforddi, dadansoddi perfformiad, dawns, arweinyddiaeth a rheolaeth, gwyddor chwaraeon, a meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff.

Mae gan yr ysgol staff a myfyrwyr academaidd, hyfforddi a datblygu chwaraeon o ansawdd uchel, ynghyd â chyfleusterau ac adnoddau addysg o'r radd flaenaf.

Mae ein gweithgareddau menter yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ymgynghoriaeth, dysgu seiliedig ar waith, trosglwyddo / cyfnewid gwybodaeth, addysg menter, darparu gwasanaethau ac offer dadansoddi yn fasnachol, allgynhyrchion, ymgysylltu â chorff proffesiynol a gweithgareddau cymdeithasol/diwylliannol.

Am ragor o wybodaeth dilynwch y ddolen isod:

Menter yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd​

Gwyddorau Iechyd

Yn ogystal â'n hystod eang o raglenni amser llawn a rhan-amser ar draws y Gwyddorau Iechyd, rydym hefyd yn gallu cynnig cyrsiau byr achrededig a heb eu hachredu ar draws ystod o ddisgyblaethau.

Mae'r rhain yn cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus i weithwyr yn y gweithle, yn ogystal â chyfleoedd i unigolion hyfforddi o fewn meysydd newydd. Mae llawer o'n cyrsiau byr hefyd yn cynnig llwybr i astudio ymhellach ar lefel radd.

Yn ogystal, mae’r Ysgol wedi sefydlu nifer o fentrau sy’n rhannu gwybodaeth ac arbenigedd â sefydliadau yn y diwydiant. 

​​