Morgan Griffiths

l-padfield-150px.jpgTechnegydd Arddangoswr mewn Delwedd Symudol

e: mgriffiths5@cardiffmet.ac.uk







Meysydd Pwnc Arbenigol 

Animeiddio a Delwedd Symudol TD

Bywgraffiad

Yn gyffredinol rydw i i'w gael yn stiwdios animeiddio Bloc N (N1.01 a N1.03). Mae fy nyletswyddau'n cynnwys cyflwyno myfyrwyr i'r llwybr animeiddio o fwrdd stori a thorri animatig i ddylunio cymeriadau ac animeiddio yn unol â'r 12 egwyddor. Rwyf hefyd yn arwain myfyrwyr trwy ddefnyddio'r feddalwedd safonol y diwydiant sydd gennym yn ogystal â gosod briffiau sy'n adlewyrchu arfer diwydiant a datblygiad rîl arddangos.

Ar ôl gweithio mewn Celf a Dylunio ers 35 mlynedd, rydw i wedi bod yn y diwydiant animeiddio ers tua 30. Gan ddechrau fy ngyrfa fel artist bwrdd stori, fe wnes i lywio fy ffordd drwy'r llwybr animeiddio traddodiadol o animeiddiwr cynorthwyol i gyfarwyddwr animeiddio. Dwi wedi gweithio ar lu o animeiddiadau plant yn y 30 mlynedd diwethaf o gyfarwyddo'r gyfres olaf o glasur Cymraeg Sali Mali i gyfarwyddwr animeiddio ac animeiddiwr ar yr anarchaidd Dave Spud. Yn ddiweddar bûm yn gweithio ar y gyfres YouTube lwyddiannus 'Corpse Talk' ar eu rhaglen Nos Galan Gaeaf 2022!

Rwy'n ddwyieithog os ydych chi'n fwy cyfforddus yn siarad yn Gymraeg neu Saesneg a phan nad ydw i'n dysgu animeiddio, rydw i yn y parc sglefrio!