Hafan>Gyn-fyfyrwyr>Alumni Data Processing

Hysbysiad Prosesu Data Cyn-fyfyrwyr / Cefnogwyr

Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn helpu cyn-fyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad â'r Brifysgol a gyda chyn-fyfyrwyr eraill, yn ogystal â darparu cyfleoedd i gefnogi gwaith Met Caerdydd.

Mae'r datganiad hwn yn esbonio sut mae Met Caerdydd yn trin ac yn defnyddio data am ei gyn-fyfyrwyr, ffrindiau, cefnogwyr presennol a chefnogwyr y dyfodol. Mae'r datganiad hwn yn ychwanegol at Hysbysiad Prosesu Teg Myfyrwyr y Brifysgol.

Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn cadw’r holl ddata am gyn- fyfyrwyr. Yn ystod y broses o ymrestru fel myfyriwr ac ar adegau eraill wrth ohebu’n uniongyrchol â'r Swyddfa Gyn-fyfyrwyr, rydyn ni’n dweud wrthych chi sut rydyn ni’n bwriadu prosesu'ch data personol. Byddwn yn parhau i brosesu eich data personol tan na fydd gennym eich caniatâd i wneud hynny mwyach.


Pam rydyn ni'n defnyddio'ch data

TDefnyddir y cofnodion gan y Brifysgol at ddibenion cysylltu â chyn-fyfyrwyr a chodi arian. Mae hyn yn cynnwys anfon cyhoeddiadau (copi caled ac electronig), holiaduron cyn-fyfyrwyr, apeliadau codi arian, gwahoddiadau i ddigwyddiadau cyn- fyfyrwyr, gwybodaeth am wasanaethau eraill a chyfleoedd gwirfoddoli. Gellir cyfathrebu drwy'r post, dros y ffôn, ar neges destun neu'n electronig.

Pa fanylion sydd gennym

Mae'r cofnodion sydd gennym yn cynnwys addysg, manylion cyswllt, gyrfa a chyflawniadau eraill. Caiff cysylltiad a chydberthynas â’r Brifysgol ers graddio a rhoddion hefyd eu cofnodi. Mewn rhai achosion ychwanegir gwybodaeth arall; categorïau arbennig o ddata rydych chi'n eu darparu at bwrpas penodol (e.e. gofynion anabledd neu ddeietegol at ddibenion rheoli digwyddiadau); gwybodaeth am eich teulu a pherthnasoedd eraill; data ariannol; a gwybodaeth am eich meysydd o ddiddordeb a'ch potensial i gefnogi'r Brifysgol.

Rydyn ni bob amser yn ymdrechu i gadw ein data mor gywir â phosib felly rydyn ni'n ei werthfawrogi’n fawr pan rydych chi'n ein hysbysu o’ch manylion cyswllt diweddaraf. Gallwch wneud hyn ar-lein, trwy'r post neu dros y ffôn.

WEfallai y byddwn hefyd yn ymgynghori â ffynonellau eraill sydd ar gael i'r cyhoedd er mwyn gwirio cywirdeb ein data, megis: Cronfa ddata Newid Cyfeiriad Cenedlaethol y Post Brenhinol (NCOA); System Gwybodaeth Gwasanaethau Teleffonyddion BT (OSIS) a chronfeydd data gwybodaeth am gyfoeth. Mae’n bosibl y byddwn yn adolygu’r wybodaeth gyflogaeth sydd gennym amdanoch hefyd o bryd i'w gilydd drwy wybodaeth gyhoeddus fel cyfryngau cymdeithasol, erthyglau papur newydd a chyhoeddiadau, gwefannau cwmnïau, Tŷ'r Cwmnïau a chronfeydd data gwybodaeth cwmnïau eraill, y Comisiwn Elusennau a chofrestrau Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban (OSCR). Pan fyddwn yn penodi parti allanol i sgrinio gwybodaeth, bydd unrhyw drefniadau o'r fath yn destun cytundeb ffurfiol rhwng Met Caerdydd a'r sefydliad hwnnw, i amddiffyn diogelwch eich data.

Byddwn weithiau’n cynnal gwaith ymchwil i'n helpu i ddeall ein cyn-fyfyrwyr, cefnogwyr a’n darpar gefnogwyr. Gall hyn gynnwys casglu gwybodaeth o adnoddau sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn rhoi cipolwg i ni o’ch diddordebau dyngarol a'ch gallu i gefnogi Met Caerdydd. Weithiau cyfeirir at hyn fel 'sgrinio am gyfoeth'..

Efallai y byddwn yn dadansoddi rhywfaint o'n data hefyd o bryd i’w gilydd i'n helpu ni i ddeall ein cyn-fyfyrwyr a'n cefnogwyr, er mwyn sicrhau ein bod yn effeithlon ac mai dim ond cyfathrebiadau perthnasol sy'n cael eu hanfon atoch. Gall hyn gynnwys pennu sgôr a gyfrifir gan ddefnyddio data personol a pha mor aml rydych wedi ymgysylltu â ni o'r blaen. Gellir defnyddio offer i fonitro effeithiolrwydd ein cyfathrebiadau â chi, gan gynnwys olrhain e-bost, sy'n cofnodi pan gaiff e-bost gennym ni ei agor a/neu faint o ddolenni sy'n cael eu clicio o fewn y neges.

Rhannu'ch data

Ni fydd eich data personol yn cael ei basio i sefydliadau allanol nac unigolion heb eich caniatâd, heblaw'r rhai hynny sy'n gweithredu fel asiantiaid i'r Brifysgol. O fewn y Brifysgol, rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd o bwy sydd â mynediad i'ch data personol. Dim ond staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol gall weld eich gwybodaeth.

Eich hawliau o ran y data sydd gennym

Mae eich hawliau mewn perthynas â'r data personol sydd gennym amdanoch yn bwysig iawn i ni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych yn dymuno cyfyngu’r data a brosesir, gan gynnwys y data a ddefnyddir at ddibenion marchnata, neu os nad ydych am i’r Brifysgol gysylltu â chi, cysylltwch â ni neu ewch i diweddaru eich dewisiadau ar-lein. Os gwnaethoch ddewis optio allan o'r holl gyfathrebiadau, cedwir y wybodaeth leiaf bob amser i sicrhau na chysylltir â chi eto yn anfwriadol (e.e. enw, gradd, pwnc astudio, blwyddyn graddio).

Fel gwrthrych data, o dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennych chi’r hawl i ofyn am fynediad i'r data personol a gedwir amdanoch chi. Cysylltwch â ni neu ein Swyddog Diogelu Data i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich data personol wedi'i brosesu gallwch gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae eich adborth yn bwysig i ni. Os oes gennych gŵyn am unrhyw un o'n gweithgareddau codi arian, gallwch ddod o hyd i'n gweithdrefn gwyno ar wefan Met Caerdydd.

Newidiadau i'r hysbysiad hwn

Gall yr hysbysiad hwn gael ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd. Fel arfer, bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hysbysu drwy’r dudalen we hon yn unig.