Mae Met Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o faterion cynaliadwyedd, gyda staff, myfyrwyr, ymwelwyr, rhan ddeiliaid a'r gymuned leol fel rhan o'r Strategaeth Ymgysylltu â Chynaliadwyedd.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn Berchennog Agwedd ac yn rhan o System Reoli Amgylcheddol y Brifysgol sy'n gyfrifol am fentrau Cymunedol a mentrau Myfyrwyr.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio tuag at welliant parhaus ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol trwy fapio, archwilio ac olrhain cynnydd blynyddol ei meysydd effaith gyda thargedau / amcanion, bod yn rhan o amserlen archwilio'r Brifysgol a mynychu'r cyfarfod Grŵp Cynaliadwyedd tymhorol.
Cynrychiolir Undeb y Myfyrwyr ym mhob un o’r cyfarfodydd Prifysgol perthnasol fel y cadarnhawyd yn y cytundeb perthynas a'r Siarter Myfyrwyr.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda phartneriaeth Llety Caerdydd. Mae Llety Caerdydd, yn cael ei redeg ar y cyd gan y Cyngor a'r tair Prifysgol leol er mwyn rhoi tawelwch meddwl i fyfyrwyr yng Nghaerdydd am faterion a allai fod yn effeithio arnynt yn y gymuned. Felly, ewch atynt am awgrymiadau ar symud o neuaddau i dŷ, am gyngor am faterion yn eich cartref, neu dim ond i gael gwybod pa bryd i roi eich biniau allan.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cydlynu’r achrediad Masnach Deg ynghyd â'r Brifysgol.