Bydd ein cyflwyniad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2021) mwyaf erioed yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen i ddwysáu ymgysylltiad ymchwil ac arloesi, incwm, allbynnau ac effaith ar draws ein portffolio academaidd cyfan, gan gynyddu staff sydd â chyfrifoldeb sylweddol am ymchwil o 30% i 50%. Byddwn yn trosoli’r màs critigol hwn a’n Hacademïau Byd-eang i ddatblygu partneriaethau rhyngwladol gwerth uchel a diwylliant data agored. Byddwn yn gweithio’n rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i gefnogi mentrau llywodraeth Cymru a’r DU a chyflawni’r nodau sydd eu hangen i sicrhau lles cenedlaethau’r dyfodol ac adferiad economaidd ôl-bandemig o fewn economi decach a gwyrddach sy’n darparu datblygu cynaliadwy.
Ein ffocws fydd parhau i feithrin ein portffolio ymchwil ac arloesi drwy feithrin gallu, gwella ein hamgylchedd ymchwil, gwella dwyster, cyrhaeddiad ac effaith ein hallbynnau ymchwil ac arloesi, a datblygu partneriaethau cenedlaethol a rhyngwladol gwerth uchel ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Byddwn yn:
-
Bod yn entrepreneuraidd, gyda gweithgareddau arloesi yn cwmpasu cyfalaf deallusol ac allbynnau a ddarperir er lles dinesig ehangach. Bydd creu cwmnïau deillio, mentrau cymdeithasol a busnesau newydd i raddedigion yn cael eu hymgorffori yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd.
-
Ymgysylltu â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu DPP rhanbarthol mewn meysydd fel Dyfodol Carbon Isel, Fintech, Seiberddiogelwch a Deallusrwydd Artiffisial.
-
Buddsoddi yn ein Hymchwilwyr Ôl-raddedig, Ôl-Ddoethurol a Gyrfa Gynnar i ddatblygu ‘grisiau i ragoriaeth’ ar gyfer gyrfaoedd ymchwil, gan ddatblygu ein Hacademi Ddoethurol i ddarparu cefnogaeth PGR gynhwysol a strwythuredig i ddod yn adnabyddus am wthio ffiniau’r hyn y gall doethuriaeth fod.
-
Cryfhau ein Academïau Byd-eang drwy gydweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol i gynyddu cyhoeddiadau, effaith sitations, cyrhaeddiad ac enw da.
-
Gwneud ein seilwaith cymorth ymchwil ac arloesi yn weladwy ac yn hygyrch, gan feddiannu lleoliadau campws gwych.