Mae Met Caerdydd yn darparu amgylchedd addysgol arloesol sy’n cefnogi myfyrwyr i gyflawni eu huchelgais personol a phroffesiynol, trwy nodi a chysylltu eu dysgu o weithgareddau cwricwlaidd a chyd-gwricwlaidd. Mae ein prifysgol yn gymuned ddysgu sy’n cael ei chysylltu gan ddull sy’n pwysleisio datrys problemau rhyngddisgyblaethol.
Byddwn yn adeiladu ar gyflawniadau ac ymagwedd ein strategaeth ddiwethaf, gan gefnogi lles myfyrwyr, digideiddio, tegwch a chynaliadwyedd. Byddwn yn cysylltu mannau a gweithgareddau cwricwlaidd a chyd-gwricwlaidd i gefnogi llwyddiant myfyrwyr. Byddwn yn canolbwyntio ar sawl dull a chymwysterau, gan weithio gydag ystod o bartneriaid i sicrhau ein bod yn cyflawni ar gyfer ein myfyrwyr, y gymuned, busnes a diwydiant.
Mae lles ein myfyrwyr ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn. Rydym yn croesawu manteision amrywiaeth i’n cymuned ac yn ceisio ymestyn y rhain drwy ein gweithgarwch unigol a thrwy weithio mewn partneriaeth â busnesau, y llywodraeth a darparwyr addysgol eraill i ddatblygu ein portffolio a addysgir ac ymgysylltu ehangach.
Byddwn yn:
- Galluogi ein myfyrwyr i gwrdd â heriau’r 21ain ganrif gyda dawn entrepreneuraidd.
- Dylunio profiadau a gofodau addysgu a dysgu o fewn campysau sydd wedi’u hail-bwrpasu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn datblygu ymdeimlad o berthyn sy’n cefnogi cyflawni eu huchelgais personol a’u deilliannau cydnabyddedig i raddedigion.
- Sicrhau bod ein Met Caerdydd EDGE (Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd) presennol yn cael ei hogi ar gyfer y dyfodol a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu cysyniadau digideiddio, globaleiddio, cynwysoldeb a chynaliadwyedd.
- Cefnogi cynhwysiant, a ddangosir gan yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sydd ar gael y tu hwnt i’n cynnig israddedig ac ôl-raddedig traddodiadol, drwy fynediad, cyrsiau byr, prentisiaethau gradd, micro-gymwysterau, trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy addysg drawswladol.