Addysg Hyfforddwyr

Cardiff Met Sport Display Banner with student exercising in the gym​​

Y​styried gyrfa mewn chwaraeon?

Ychwanegwch werth i'ch cyflogadwyedd trwy ystod o gymwysterau addysg hyfforddwyr a chwaraeon ym Met Caerdydd.

Os ydych yn ystyried gyrfa yn y diwydiant chwaraeon ar sail wirfoddol neu broffesiynol, bydd angen i chi fod yn gymwys. Mae cyflogwyr eisioes angen hyfforddwyr, cynorthwywyr hamdden, rheolwyr a gwirfoddolwyr i feddu ar gymwysterau priodol a gydnabyddir gan y diwydiant yn ogystal â'u proffiliau academaidd. Maen angen iddynt gael tystiolaeth eich bod wedi cymhwyso eich gwybodaeth mewn amgylchedd perthnasol a heriol.

Trwy fanteisio ar y cymwysterau sydd ar gael byddwch hefyd yn gwella'ch potensial i sicrhau cyflogaeth rhan-amser yn y diwydiant chwaraeon a datblygu eich CV wrth wneud gwaith perthnasol i chwaraeon cymhwysol yn y gymuned.

Mae Met Caerdydd, mewn partneriaeth â Chwaraeon Caerdydd, wedi cynllunio rhaglen o gyrsiau Addysg Hyffordwyr i'w cynnal ar gampws Cyncoed drwy gydol y flwyddyn.​

Sut i archebu

Mae cyrsiau addysg hyfforddwyr Chwaraeon Met Caerdydd i'w gweld ar-lein. Am wybodaeth pellach neu i archebu, dilynwch y ddolen isod:

​​