Campfa Syd Aaron

Mae Campfa Syd Aaron wedi cael ei hadnewyddu'n llawn yn ystod Mehefin / Gorffennaf 2015.  Mae'r cyfleuster gymnasteg arbenigol hwn wedi'i gyfarparu'n llawn i ddiwallu anghenion addysgol hyfforddwyr a lefelau gallu penodol gymnasteg myfyrwyr o fewn yr Ysgol Chwaraeon, carfan Gymnasteg Met Caerdydd a'r Academi Gymnasteg Iau.

 

 

Mae'r Gampfa wedi'i chyfarparu â:

  • Llawr crog llawn gydag arwynebedd o 12m x 12m
  • Trac Twmblo (14m), Trampolîn, Tabl Llofneidio a Barrau Cyflin (i'r pwll ewyn)
  • Bar Uchel a Modrwyau (dros y pwll ewyn)
  • Barrau anghymesur (dros ardal glanio cystadleuaeth)
  • Trawst (maint cystadleuaeth lawn ac ar y llawr)
  • Sbringfyrddau a Thrampetau
  • Ystod lawn o fodiwlau ewyn a matiau glanio i ddatblygu sgiliau swyddogaethol