Ynglŷn â Ni>Chwaraeon Met Caerdydd>Cyfleusterau Chwaraeon

Cyfleusterau Chwaraeon

​​​​​​

Ymaelodi Ar-lein          


Mae cyfleusterau chwaraeon Met Caerdydd ar agor i bawb; pa un a ydych chi'n athletwr elitaidd, yn chwaraewr achlysurol neu heb gymryd rhan erioed o'r blaen, mae croeso mawr i chi.

Ymholiad Archebu


Darganfyddwch fwy am ein cyfleusterau chwaraeon:

Arena Saethwyr

Mae'r Archers Arena ar Gampws Cyncoed ac fe'i cynlluniwyd i ddarparu ar gyfer:

  • Pêl-rwyd a Phêl-fasged ar lefel cystadleuaeth uchel
  • Cyrtiau hyfforddi a lefel clwb ar gyfer badminton (8 cwrt), pêl-fasged (2 gwrt) a phêl-rwyd (2 gwrt) 
  • Hyd at 500 o seddi gwylwyr ar gyfres o unedau seddi symudol

Mae'r Archers Arena yn ffinio â thalcen y Ganolfan Tenis bresennol ac mae'n cynnwys ystafelloedd newid a mynedfa.

Met Heini Cyncoed


Mae Met Heini Cyncoed yn gampfa bwrpasol a ddatblygwyd ar gyfer defnyddwyr abl ac anabl. Mae'n cynnwys peiriannau cardiofasgwlaidd, gorsafoedd pwysau, ardal rhodian, ardal wattbike ac ardaloedd cynhesu/ymestyn y corff. Mae'r Ganolfan hefyd yn cynnwys ardal pwysau rhydd.

Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Gellir archebu sesiynau campfa trwy ein app. Cliciwch yma

Stiwdio Ddawns


Mae'r Stiwdio Ddawns ar Gampws Cyncoed.  Mae yno lawr pren sbring ac mae drychau ar ran ohono sydd â 360 gradd o olau naturiol sy'n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer dysgu dawns.

Met Heini Llandaf


Mae'r Ganolfan Ffitrwydd hon ar lawr cyntaf y Ganolfan Myfyrwyr yn Llandaf, ac mae yno'r offer hyfforddi cardiofasgwlaidd a chodi pwysau diweddaraf.

Mae'r cyfleuster yn agored i'r holl fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol.

Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Gellir archebu sesiynau campfa trwy ein appCliciwch yma

Y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC)


Mae'r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC) ar Gampws Cyncoed ym Met Caerdydd.  Dyma'r trac athletau dan do pwrpasol cyntaf yn y DU. 

Gall NIAC hefyd ddarparu ar gyfer chwaraeon eraill gan gynnwys pêl-rwyd, pêl-fasged a phêl foli

Mae'r cyfleuster wedi'i gyfarparu'n llawn i safon ryngwladol ac mae ganddo seddi i 690 o wylwyr.

Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Gellir archebu sesiynau athletau trwy ein appCliciwch yma

Cyfleuster Athletau Awyr Agored

Outdoor Athletics.jpg

Agorodd ein Cyfleuster Athletau Awyr Agored ar ei newydd wedd yn ystod haf 2017 ac mae'n cynnwys trac 6 lôn 400m a mannau ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon maes.

Gellir archebu sesiynau athletau trwy ein appCliciwch yma

Astro Turf


Mae'r Astro Turf wedi'i leoli ar Gampws Cyncoed ac mae ganddo farciau ar gyfer hoci a phêl-droed.  Mae'n gyflawn gyda dugouts, ardaloedd gwylwyr, bwrdd sgorio electronig a Camera IP a ddefnyddir i ddarparu dadansoddiad fideo o ansawdd uchel.  Mae'n gartref i dimau hoci'r myfyrwyr a'r Academi Hoci Iau.

Stiwdio Un a Stiwdio Seiclo

Mae stiwdio un yn ofod amlbwrpas lle mae ystod o'n dosbarthiadau ffitrwydd yn cael eu cynnal. 
Y Stiwdio Seiclo yw lle mae ein holl ddosbarthiadau seiclo yn cael eu cynnal sy'n cynnwys 15 o'r beiciau seiclo gorau. Gall ein haelodau ddefnyddio'r ddau le pan nad oes neb yn eu defnyddio.
Gellir archebu sesiynau stiwdio trwy ein app. Cliciwch yma

Neuadd Chwaraeon


Mae'r Neuadd Chwaraeon (sydd wedi'i lleoli ar Gampws Cyncoed) yn gyfleuster amlbwrpas sy'n darparu ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys badminton, pêl-fasged, pêl-rwyd, pêl foli, criced a hyfforddiant cyffredinol.

Cyrtiau Sboncen


 Wrth ymyl y Neuadd Chwaraeon mae 2 Gwrt Sboncen.

Defnyddir y cyrtiau yn bennaf gan dîm sboncen Met Caerdydd at ddibenion hyfforddi, gemau cynghrair cartref a gemau BUCS.  Mae'r cyrtiau hefyd yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr a'r gymuned leol at ddibenion hamdden.

Gellir archebu cyrtiau sboncen trwy ein appCliciwch yma

Pwll nofio

 

Mae'r pwll yn bwll nofio dan do 4 lôn 25 metr gyda phen bas 1m a phen dwfn 3m.

Mae wedi'i leoli ar Gampws Cyncoed, ac mae'n cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr ar gyrsiau chwaraeon, clybiau nofio Caerdydd, polo dŵr a chanŵio, myfyrwyr at ddefnydd hamdden, a'r cyhoedd.

Cliciwch ymai ddarllen mwy.

Gellir archebu sesiynau nofio trwy ein appCliciwch yma

Gymnasium Syd Aaron


Mae'r cyfleuster gymnasteg arbenigol hwn wedi'i gyfarparu'n llawn i ddiwallu anghenion addysgol hyfforddwyr a lefelau gallu penodol gymnasteg myfyrwyr yn yr Ysgol Chwaraeon, carfan Gymnasteg Met Caerdydd a'r Academi Gymnasteg Iau                   

Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Canolfan Tenis


Datblygwyd y cyfleuster hwn mewn Partneriaeth gyda'r Gymdeithas Tenis Lawnt a dyma gyfleuster Tenis Rhanbarthol Cymru. Mae'r Ganolfan yn cynnwys 4 cwrt dan do ar Gampws Cyncoed y Brifysgol.

Cliciwch yma​​ i ddarllen mwy.

Gellir archebu cyrtiau tenis trwy ein appCliciwch yma

Caeau Pêl-droed


Mae gennym dri chae pêl-droed ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Cae Pêl-droed 3G - Cyncoed

Ein cae pêl-droed 3G 2 seren FIFA yw cartref timau pêl-droed Academi y Dynion, Academi'r Menywod a'r Academi Iau.

Cae Pêl-droed Glaswellt - Cyncoed

Mae gennym gae pêl-droed glaswellt wedi'i leoli ger ein cae 3G a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer hyfforddiant a digwyddiadau BUCS.

Cae Pêl-droed Glaswellt - Llandaf

Mae ein cae pêl-droed yn Llandaf wedi'i leoli yng nghefn y campws ac mae ganddo farciau ar gyfer lacrosse hefyd.  Mae gennym hefyd ddau gae glaswellt 5 bob ochr ar gampws Llandaf.

Caeau Rygbi


Mae gennym dri chae rygbi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Cae Rygbi 3G - Cyncoed

Agorodd ein cae rygbi 3G yn 2017 ac fe'i defnyddir gan dimau chwaraeon y myfyrwyr ar gyfer hyfforddiant a gemau cystadleuol.  Mae'r cae hwn wedi'i leoli y tu mewn i'r trac athletau 400m awyr agored.

Cae Rygbi Glaswellt - Cyncoed

Mae'r cae rygbi glaswellt wedi'i leoli y tu ôl i'r Archers Arena a'r Ganolfan Tenis.  Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer gemau BUCS a'r Gynghrair Genedlaethol ac mae'n cynnwys stand gwylwyr mawr a bwrdd sgorio electronig.

Cae Rygbi Glaswellt - Llandaf (yn y llun uchod)

Mae ein cae rygbi glaswellt yn Llandaf wedi'i leoli mewn lleoliad trawiadol yng nghefn y campws ac yn ymyl Eglwys Gadeiriol Llandaf.  Defnyddir y cae hwn yn bennaf ar gyfer digwyddiadau BUCS.

​Cyfleusterau Gorllewin Caerdydd​

Cyfleusterau Campws Cymunedol y Dwyrain