Canllawiau i Ddefnyddwyr

Rydym wedi creu canllawiau cyflym i'ch helpu chi i ddechrau gyda'r argraffwyr Kyocera newydd. Defnyddiwch y dolenni isod i weld fersiwn PDF ddwyieithog o'r canllawiau hyn.

Os hoffech gael fersiwn wedi’i argraffu o'r canllawiau hyn, cysylltwch â printstudio@cardiffmet.ac.uk. Fel arall, os hoffech gael rhywfaint o hyfforddiant manylach yna rhowch wybod i ni - byddwn yn hapus i ddangos yr holl nodweddion newydd sydd ar gael ar ein system argraffu newydd i chi.


​​

Cofrestru'ch CerdynMet

I fewngofnodi'n gyflym i argraffwyr y Brifysgol bydd angen i chi gofrestru'ch CerdynMet. Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn, ond os byddwch chi'n colli'ch cerdyn staff/myfyriwr efallai y bydd angen i chi ail-wneud y broses.

Register Card (Web).pdf

 

Ychwanegu Credyd Argraffu

Gallwch chi ychwanegu credyd at eich cyfrif argraffu yn hawdd gan ddefnyddio cerdyn debyd/credyd. Ewch i cardiffmet.ac.uk/printcredit a dilynwch y canllaw isod i ychwanegu at eich balans yn gyflym.
Noder y bydd angen ail-glustnodi unrhyw gredyd blaenorol ar eich CerdynMet i'r system newydd. Ewch i'r Stiwdio Argraffu i symud unrhyw arian yr ydych am ei ddefnyddio.

Print Credit (Web).pdf

 

Anfon Printiau

Mae argraffu dogfennau’n haws nag erioed gan ddefnyddio'r dyfeisiau newydd. Mae'n hargraffwyr newydd yn darparu rhai nodweddion defnyddiol newydd fel newid gosodiadau tasgau hyd yn oed ar ôl eu hanfon i'w hargraffu. Bydd y canllaw isod yn eich helpu i ddechrau os ydych angen rhywfaint o gymorth i argraffu gwaith.

Printing (Web).pdf

 

Sganio

Mae gan yr argraffwyr aml-swyddogaeth newydd ystod eang o opsiynau sganio hefyd. Sganiwch i e-bost a storfa cwmwl yn syth o'r ddyfais yn gyflym ac yn hawdd.

* Bydd yn bosibl Sganio i OneDrive o fewn yr ychydig wythnosau nesaf

Scan to Guide web.pdf

 

Gallwch argraffu ffeiliau o unrhyw ddyfais gan ddefnyddio'r porth gwe i anfon tasgau. Bydd y canllawiau isod yn eich helpu i ddechrau.

Web Print Guide web.pdf