Rydym yn darparu ystod o gyfleoedd i gyflogwyr godi eu proffil ar y campws ac ymgysylltu â'n myfyrwyr.
Hysbysebu swyddi gwag
Rydym yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim, lle gallwch hysbysebu'ch cyfleoedd ar ein system ar-lein, MetHub.
Mae’n myfyrwyr yn dechrau defnyddio MetHub o'r diwrnod cyntaf, felly trwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn gallwch gynyddu gwelededd eich swyddi gwag i gynulleidfa darged berthnasol
Cofrestru ar ein tudalen cyflogwr
Mathau o swyddi gwag
- Mathau o swyddi gwag
- Swyddi gwag i raddedigion
- Interniaethau â thâl
- Interniaethau, lleoliadau a phrofiad gwaith
- Gwirfoddoli
- Cyfleoedd rhyngwladol
- Swyddi rhan amser
E-byst wedi'u targedu
Mae e-byst wedi'u targedu yn ffordd effeithiol o farchnata cyfleoedd i garfan benodol o fyfyrwyr.
Gellir hidlo derbynwyr yn ôl amryw o feini prawf, gan gynnwys grŵp blwyddyn a chwrs.
Mae'r rhain yn ffordd gost-effeithiol i ddweud wrth fyfyrwyr am eich swyddi gwag, digwyddiadau, gweminarau neu unrhyw beth arall.
Cynyddu ymwybyddiaeth brand
Stondinau cyflogwyr
Gallwn drefnu lle o fewn ardal boblog ar y Campws i chi gynnal stondin hyrwyddo.
Mae hyn yn rhoi cyfle i:
- gael sgwrs anffurfiol â myfyrwyr er mwyn hyrwyddo'ch swyddi gwag
- cynyddu ymwybyddiaeth brand
- profi'r farchnad
- adnabod talent ar gyfer recriwtio yn y dyfodol
Cyflwyniadau Cyflogwyr
Gallwn hefyd drefnu sesiwn i chi ddod i siarad â'n myfyrwyr am eich sefydliad. Mae hyn yn rhoi cyfle i:
- ddangos eich swyddi gwag cyfredol
- egluro eich prosesau recriwtio
- rhwydweithio gyda myfyrwyr
Sesiynau sgiliau cyflogwyr
Rydym yn gwahodd cyflogwyr i'r Campws i gynnal sesiynau sgiliau, sy'n weithdai rhyngweithiol gyda'r nod o ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ein myfyrwyr.
Mae'r sesiynau hyn yn caniatáu i chi gysylltu â'n myfyrwyr a'u helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau neu wybodaeth benodol.
Interniaethau wedi'u hariannu
Santander
Rydym yn gweithgio mewn partneriaeth â Santander ac yn cynnig interniaethau a ariennir yn rhannol i fusnesau bach i ganolig sy'n dymuno cyflogi myfyriwyr neu raddedigion diweddar am rhwng 1 a 10 wythnos.
Dysgu mwy am interniaethau wedi'u hariannu
Ffeiriau gyrfaoedd
Mae’n Ffeiriau Gyrfaoedd yn lle perffaith i chi ymgysylltu ag amrywiaeth o fyfyrwyr a thrafod eich cyfleoedd mewn lleoliad anffurfiol.
Rydym yn cynnal rhai digwyddiadau yn flynyddol, gan gynnwys y Ffair Yrfaoedd a Lleoliadau sydd wedi'i hanelu at bob myfyriwr sydd am drafod llwybrau gyrfa posibl.
Rydym hefyd yn cynnal Ffair Swyddi Rhan Amser a Thymhorol sy'n galluogi cyflogwyr i ryngweithio â myfyrwyr a dod o hyd i dalent i lenwi swyddi rhan amser dros dro.
Rydym hefyd yn cynnal amryw o ffeiriau gyrfa wedi'u teilwra trwy gydol y flwyddyn academaidd. Cefnogir y rhain gan gyflogwyr o nifer o ddiwydiannau, gan gynnwys:
- Gwyddoniaeth
- Technoleg
- Iechyd Gofal
- Cymdeithasol
- Addysg Chwaraeon
Fforymau
Mae fforymau’n ddigwyddiadau ar ffurf panel gyda 4-5 o gynrychiolwyr yn bresennol. Bydd pob un yn rhoi cyflwyniad byr ac yna bydd cyfle i rwydweithio.
Gallant eich helpu i hyrwyddo'ch diwydiant ac ymgysylltu â thalent bosibl ar gyfer y dyfodol.
Mae siaradwyr yn rhoi awgrymiadau a mewnwelediad o’u profiad eu hunain o ddatblygu llwybr gyrfa a fydd yn gymorth i fyfyrwyr nodi eu dyheadau gyrfa eu hunain.
Prosiectau pwrpasol
Rydym bob amser yn agored i syniadau newydd a fydd o fudd i gyflogwyr a myfyrwy.Cysylltwch â ni i drafod.