Llongyfarchiadau ar ennill lle ar un o'n rhaglenni TAR!
Wrth baratoi ar gyfer y rhaglen TAR ym mis Medi, yma y cewch eich
Gwybodaeth am Ymuno.
Yn ogystal â'r wybodaeth isod, cyfeiriwch hefyd at
Fanyleb eich Rhaglen, y byddwch eisoes wedi'i gweld pan gawsoch eich cynnig.
Dyddiad cychwyn y cwrs - Medi 4ydd 2023
TAR Cynradd
Gwybodaeth Ymuno TAR Cynradd
Fel rhan o'r Wybodaeth Ymuno uchod, gofynnir ichi lenwi'ch
ffurflen leoliad ar-lein. Gofynnir i chi am eich ID Myfyriwr, y gallwch chi ddod o hyd iddo yn yr e-bost a anfonwyd atoch ynglŷn â'r Wybodaeth Ymuno hon. Gofynnir i chi hefyd nodi'ch cyfeiriad yn ystod y tymor. Os ydych chi'n aros i gadarnhau'ch cyfeiriad cyn dechrau eich astudiaethau gyda ni ym mis Medi, neu os nad ydych chi'n symud, copïwch eich cyfeiriad parhaol i'r meysydd hyn.
Byddech hefyd yn derbyn e-bost yn fuan gyda chyfarwyddiadau ar sut i gychwyn y cais DBS Uwch.
Cyfeiriwch at y wybodaeth isod am fanylion eich cyfnod Sefydlu:
Gwybodaeth Croeso
Eich Rhestr Wirio cyn i chi gyrraedd
- Rwyf wedi cwblhau'r broses ymgeisio DBS Uwch ar-lein
- Rwyf wedi cofrestru'n llwyddiannus ar-lein:
www.cardiffmet.ac.uk/enrolment (yn gymwys unwaith y bydd DBS wedi'i wirio gan yr adran Dderbyniadau) SYLWCH: Bydd cofrestru yn agor yr wythnos sy'n dechrau Gorffennaf 24ain. Byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost a chyfarwyddiadau pan fydd ar agor.
- Rwyf wedi darllen a deall Telerau ac Amodau fy nghynnig:
www.cardiffmet.ac.uk/terms
Ewch i'r wefan Saesneg gwybodaeth ymuno ar gyfer Hyfforddiant Athrawon UCAS..
Cefnogaeth i wella eich sgiliau Cymraeg.
TAR Uwchradd
Cofrestru
Mae hon yn broses hanfodol sy'n cadarnhau eich statws fel myfyriwr Met Caerdydd. Mae hefyd yn caniatáu mynediad ichi at eich gwybodaeth talu ffioedd, systemau gwybodaeth eich rhaglen, ac yn eich galluogi i gael gafael ar eich MetCard Myfyrwyr.
Er mwyn cwblhau'r
hunan-gofrestru ar-lein, rhaid i'ch statws fod yn ddiamod (UF) a rhaid i'ch DBS Uwch gael ei glirio a'i ddilysu gan yr adran Dderbyniadau.
Sylwch - bydd cofrestru yn agor o 24 Gorffennaf a byddwch yn derbyn e-bost ar sut i gwblhau'r broses.
Cyllid a Chymhellion
Gwybodaeth bellach ar sut i wneud cais trwy Gyllid Myfyrwyr os oes angen cyllid arnoch chi i dalu am eich ffioedd dysgu.
Mwy o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ar gyfer Hyfforddiant Athrawon yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn talu'r
cymhellion i Met Caerdydd sydd yn ei dro yn talu'r swm perthnasol i fyfyrwyr cymwys yn fisol. Nid oes rhaid i chi wneud cais am y cymhelliant. Os ydych chi'n gymwys, wedi cofrestru a dechrau'ch hyfforddiant yn llwyddiannus, bydd y rhandaliadau yn cael eu talu'n uniongyrchol i chi -
mwy wybodaeth.