YMGEISIO TRWY CLIRIO: 0300 330 0755

Diwrnodau Agored Clirio a Theithiau Campws

 

Ymweld â Ni – Teithiau Campws Clirio

Pryd? 18fed, 19eg a 23ain Awst 2023
Yn rhedeg rhwng 10yb a 2yp

Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u hanelu at y rhai sy’n edrych i sicrhau lle ym Met Caerdydd drwy Glirio ac a hoffai ymweld â’r campws cyn dechrau gyda ni ym mis Medi. Bydd ein Tîm Digwyddiadau Recriwtio Myfyrwyr wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych a chael eich cefnogi gan ein llysgenhadon myfyrwyr a fydd yn mynd â chi ar daith dywys o amgylch y campws.

ARCHEBWCH EICH LLE

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni yn opendays@cardiffmet.ac.uk.

 

Cymorth Clirio - Sesiwn Holi ac Ateb Ar-lein

Pryd? Dydd Iau 17eg Awst 2yp a dydd Llun 21ain Awst 5yp​​

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich cynnig Clirio? Ymunwch â'n Sesiwn Holi ac Ateb. Byddwn yn cynnig cefnogaeth ar beth i ddisgwyl nesaf, tipiau ar sut i baratoi ar gyfer Wythnos Croesawu ac unrhyw gwestiynau arall ​bydd gennych ynglŷn ag ymuno a Met Caerdydd trwy Glirio​.

ARCHEBWCH EICH LLE

Archwiliwch Mwy Ar-lein

Porwch ein tudalennau cyrsiau israddedig i ddarganfod mwy am eich diddordebau cwrs*. Gallwch hefyd gael Sgwrs Fyw gyda’r tîm derbyn ar y dudalen hon, mynd ar daith rithwir o amgylch y llety a gweld beth sydd gan Gaerdydd i'w gynnig.

*Mae amryw o deithiau rhithwir rhyngweithiol cwrs-benodol a fideos ar gael ar draws ein tudalennau cyrsiau israddedig.