YMGEISIO TRWY CLIRIO: 0300 330 0755

Llinell Gyngor Clirio

Mae Llinell Gyngor Clirio Met Caerdydd NAWR AR AGOR ac mae ein tîm ar gael i’ch helpu i sicrhau lle. Gallwch ffonio 0300 330 0755 neu Sgwrsio’n Fyw ar-lein.

Amseroedd Agor Llinell Gyngor Clirio

Gorffennaf 5ed – 16eg Awst 2023:
Dydd Llun – Dydd Iau: 8:30yb – 5yp. Dydd Gwener tan 4:30yp.

Dydd Iau 17eg Awst 2023 (Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch):
Mae ein tîm o staff llinell gyngor ac academyddion ar gael ar yr adegau canlynol, i sgwrsio trwy’r opsiynau sydd ar gael i chi.
8:00yb – 6:30yh


Dydd Gwener 18fed Awst 2023: 8:30yb – 5yp
Dydd Sadwrn 19eg Awst 2023: 9yb - 3yp
Dydd Sul 20fed Awst 2023: 10yb – 3yp

Dydd Llun 21ain Awst 2023 – ymlaen:
Dydd Llun – Dydd Iau: 8:30yb – 5yp. Dydd Gwener tan 4:30yp.

Allan o Oriau

Os ydych chi am gysylltu â ni y tu allan i’r oriau hyn, neu os na allwch fynd trwodd ar y ffôn, gallwch wneud cais ar-lein trwy lenwi ein ffurflen gais clirio ar-lein. Gallwch hefyd anfon e-bost atom ar askadmissions@cardiffmet.ac.uk a bydd aelod o’r tîm yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys amlinelliad byr o’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, eich cymwysterau academaidd, ynghyd â’ch manylion cyswllt llawn, gan gynnwys e-bost dilys a rhif ffôn cyswllt.

Nodwch: Byddwn yn ymdrechu bob amser i ymateb i’ch e-bost neu ymholiad ffôn o fewn 24 awr. Fodd bynnag, ar brydiau efallai y bydd angen i ni atgyfeirio ymgeisydd am benderfyniad academaidd a allai gymryd mwy o amser.​​​​