Cardiff School of Sport and Health Sciences>Cyrsiau>Therapi Lleferydd ac Iaith - BSc (Anrh)
BSc (Hons) Speech and Language Therapy

Therapi Lleferydd ac Iaith - BSc (Anrh)

 

Ffeithiau allweddol

Côd UCAS: B620

Lleoliad Astudio: 
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Tair mlynedd yn llawn amser Hyd y Cwrs:
Three years full-time

Achredwyd gan:

Royal College of Speech and Language Therapists

Wedi’i gymeradwyo gan:

Health and Care Professions Council

Cofnod Blog Myfyriwrt

Speech Therapy Blog
ASTUDIO THERAPI LLEFERYDD AC IAITH YN MET CAERDYDD.
Kate Goulding - BSc (Anrh) Therapi Lleferydd ac Iaith.

 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio gyda phobl o bob oed ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu, ac anhwylderau llyncu. Mae ein gradd Therapi Lleferydd ac Iaith yn cynnig cyfle i chi ymuno â'r proffesiwn cyffrous hwn ac ennill cymhwyster a gymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal fel therapydd iaith a lleferydd.

Mae hon yn radd Therapi Lleferydd ac Iaith bywiog ac ysgogol gyda bri rhagorol. Addysgir myfyrwyr gan dîm ymroddedig o ddarlithwyr sy'n cynnwys therapyddion lleferydd ac iaith profiadol gydag ystod eang o arbenigeddau, yn ogystal ag ymchwilwyr y mae eu gwaith yn hysbys yn rhyngwladol. Mae darlithoedd gwadd gan arbenigwyr clinigol a defnyddwyr gwasanaeth sy'n rhannu eu safbwyntiau. Mae gennym gysylltiadau hirsefydlog gyda'r GIG, ac mae gan bob un o'n myfyrwyr gyfle i ennill profiad clinigol ymarferol gydag ystod o gleientiaid pediatrig ac oedolion.

Mae cyfleoedd lleoli yn amrywiol iawn, yn amrywio o'n clinigau mewnol i ysbytai, clinigau ac ysgolion. Byddwch yn datblygu eich arbenigedd wrth asesu a thrin ystod amrywiol o grwpiau cleientiaid.

Oherwydd bod y rhaglen hon yn cael ei hariannu gan y GIG ac felly bod lleoedd cyfyngedig ar gael a allai amrywio bob blwyddyn, yn anffodus ni ellir ystyried ceisiadau gohiriedig.

Pam astudio gyda ni?

  • Mae ffioedd dysgu myfyrwyr sy'n cychwyn ar eu hastudiaethau yn 2018 ac sy’n ymrwymo i weithio i'r GIG yng Nghymru am o leiaf 2 flynedd ar ôl cymhwyso yn cael eu talu’n llawn. Am fanylion pellach, gweler Bwrsariaeth a Chefnogaeth Ariannol y GIG isod.
  • Bydd gennych ragolygon cyflogaeth rhagorol gyda 95% o'n graddedigion yn cael swydd therapi cyn pen 6 mis ar ôl cwblhau ein cwrs, yn ôl Unistats. Mae hyn yn well nag unrhyw gwrs Therapi Lleferydd ac Iaith israddedig arall yn y DU
  • Cyflawnodd ein cwrs sgôr o 93% mewn boddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf (2017).
  • Rydyn ni'n rhoi dewis i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg i astudio peth o'r radd trwy gyfrwng y Gymraeg, gan wneud ein cwrs yr unig un yn y DU sydd â darpariaeth ddwyieithog.
  • Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys clinig mewnol, ystafell efelychiad clinigol a dau labordy gwyddor lleferydd, ble y byddwch chi'n ennill profiad ymarferol gyda'r meddalwedd a'r offer diweddaraf.
  • Byddwch yn dysgu oddi wrth therapyddion lleferydd ac iaith gweithredol sydd â gwir frwdfrydedd dros eu harbenigedd clinigol ac awydd i drosglwyddo eu gwybodaeth a'u sgiliau i chi.
  • Byddwch yn ennill profiad clinigol helaeth mewn ystod eang o leoliadau, gan gynnwys lleoliadau pediatrig ac i oedolion.

Cynnwys y Cwrst​

Mae hon yn rhaglen lawn a chynhwysfawr, sy'n gofyn am bresenoldeb dyddiol, a gall rhai darlithoedd orffen ar ôl 5pm. Mae cynnwys cwrs penodol fel a ganlyn:

Blwyddyn Un:
Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn pynciau sy'n greiddiol i'r proffesiwn therapi lleferydd ac iaith, fel ieithyddiaeth, seineg, anatomeg, ffisioleg a seicoleg. Rydych hefyd yn cychwyn ar eich addysg glinigol gyda darlithoedd a thiwtorialau ble mae therapyddion lleferydd ac iaith gweithredol yn rhoi cyflwyniad i batholeg a therapi lleferydd ac iaith. Oddi ar y campws rydych chi'n dysgu am ddatblygiad plant mewn lleoliad meithrin, yn rhyngweithio ag oedolion hŷn mewn lleoliad partner cyfathrebu, ac yn cychwyn eich lleoliad ymarfer clinigol cychwynnol ar ddiwedd y flwyddyn.

Cynnwys penodol (mae pob modiwl yn graidd, nifer y credydau mewn cromfachau):

  • Gramadeg ac Ystyr (20)
  • Seineg a Ffonoleg (20)
  • Sylfeini Therapi Lleferydd ac Iaith (hefyd yn Gymraeg) (10)
  • Patholeg Lleferydd ac Iaith 1 (10)
  • Ymarfer Cydweithredol Cyfoes (10 Credyd)
  • Datblygiad Proffesiynol 1 (hefyd yn Gymraeg) (10)
  • Anatomeg a Ffisioleg (10) · Cyflwyniad i Seicoleg (10)
  • Seicoleg Oes a Datblygiad Iaith (20)


Blwyddyn Dau:
Yn ail flwyddyn y cwrs, mae pwyslais yr addysgu yn dod yn fwy clinigol, ac rydych chi'n ymestyn eich gwybodaeth o'r pynciau craidd a astudiwyd gennych ym Mlwyddyn 1 i adeiladu eich dealltwriaeth o amrywiaeth o anhwylderau lleferydd ac iaith penodol. Rydych chi'n archwilio ffyrdd o asesu a rheoli ystod o grwpiau cleientiaid, gan gynnwys plant ag anawsterau lleferydd ac iaith, oedolion ag anhwylderau caffael iaith a llais, a phobl ag anableddau dysgu. Ar eich dau leoliad bloc, byddwch yn dechrau bod â chyfrifoldeb am reoli eich llwyth achosion eich hun, gydag arweiniad a goruchwyliaeth.

Cynnwys penodol (mae pob modiwl yn graidd, nifer y credydau mewn cromfachau):

  • Iaith a Defnydd (10)
  • Lleferydd a Dadansoddiad Clinigol (20)
  • Dysffagia (10)
  • Patholeg Lleferydd ac Iaith 2 (20)
  • Sain, Clyw ac Awdioleg (20)
  • Datblygiad Proffesiynol 2 (hefyd yn Gymraeg) (10)
  • Gwyddorau Meddygol (10)
  • Ymchwil 1 (hefyd yn Gymraeg) (10)
  • Seicoleg Gwybyddiaeth (10)


Blwyddyn Tri:
IYn nhrydedd flwyddyn y cwrs, byddwch yn dechrau astudio meysydd clinigol mwy arbenigol, megis dwyieithrwydd, atal dweud, anabledd lluosog, a chyfathrebu amgen ac atodol. Byddwch hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth o agweddau ehangach ar ymarfer therapi lleferydd ac iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Bydd rhan fwy o'ch amser yn cael ei ddefnyddio ar leoliadau clinigol yn y ddau dymor, a byddwch hefyd yn casglu a dadansoddi data fel rhan o'ch prosiect ymchwil eich hun.

Cynnwys penodol (mae pob modiwl yn graidd, nifer y credydau mewn cromfachau):

  • Astudiaethau dwyieithog a diwylliannol (10)
  • Anhwylderau Llais (10)
  • Anabledd Dysgu ac AAC (15)
  • Patholeg Lleferydd ac Iaith 3 (10)
  • Anhwylderau Rhuglder a Chynghori (15)
  • Datblygiad Proffesiynol 3 (hefyd yn Gymraeg) (10)
  • Arbenigeddau Patholeg Lleferydd ac Iaith (20)
  • Ymchwil 2 (hefyd yn Gymraeg) (20)
  • Seicoieithyddiaeth 2 (10)>

Dysgu ac Addysgu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau o ddysgu ac addysgu trwy gydol y cwrs. Mae'r rhain yn cynnwys darlithoedd, seminarau a thiwtorialau ochr yn ochr â gweithdai ymarferol yn ein swit efelychiad clinigol, yn ogystal â goruchwyliaeth un i un ar gyfer prosiectau ymchwil blwyddyn olaf. Mae ein pwyslais ar gynorthwyo myfyrwyr i drosi theori yn ymarfer er mwyn dod yn therapyddion iaith a lleferydd hyderus.;

Mae gan aelodau staff y Ganolfan ThILl lawer o arbenigedd mewn Seineg ac Ieithyddiaeth, Datblygiad Iaith Plant, Awdioleg, Anhwylder Iaith Datblygiadol, Anhwylderau Rhuglder, Anhwylderau Llais, Anableddau Dysgu ac AAC, Anhwylderau Llyncu ac Anhwylderau Niwrolegol mewn Oedolion. Mae therapyddion lleferydd ac iaith arbenigol allanol yn darparu addysgu mewn arbenigeddau eraill, ochr yn ochr â defnyddwyr y gwasanaeth. Mae llawer o'n staff yn weithredol mewn ymchwil gyda 74% o'r ymchwil wedi ei gyflwyno gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, gan gynnwys gan staff Therapi Lleferydd ac Iaith, wedi'u graddio fel rhai rhyngwladol rhagorol neu'n arwain y byd yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Trwy gydol y cwrs, cefnogir myfyrwyr yn unigol gan eu tiwtor personol eu hunain sy'n helpu i'w tywys ar eu taith i ddod yn therapydd lleferydd ac iaith proffesiynol.

Lleoliadau Clinigol Mae myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau wythnosol a bloc yn ystod y cwrs. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer datblygiad ystod eang o sgiliau clinigol. Rydym newydd adnewyddu cyfleusterau clinig mewnol pwrpasol sy'n cynnal clinigau ar gyfer oedolion ag anawsterau caffael niwrolegol ac ar gyfer plant ag anawsterau cyfathrebu datblygiadol.

Mae pob un o'n staff clinigol yn therapyddion iaith a lleferydd sy'n cynnig lleoliadau clinigol ochr yn ochr â'u haddysgu. Mae'r daith glinigol yn cychwyn ym mlwyddyn 1 ble y byddwch chi'n ennill profiad o weithio gyda phlant ac oedolion hŷn, ac yn cychwyn ar eich lleoliadau clinigol, gan adeiladu ar y sgiliau hyn ymhellach ym mlynyddoedd 2 a 3. Mae myfyrwyr yn profi ystod eang o grwpiau cleientiaid ar leoliad, gyda'r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â dros 650 o oriau lleoliad trwy gydol y cwrs.

Asesiad

Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn ystod y cwrs. Ymhlith yr asesiadau mae traethodau, adroddiadau achos, cyflwyniadau, arholiadau ysgrifenedig, arholiad llafar clinigol, a phrosiect ymchwil sy'n canolbwyntio'n fanwl ar bwnc o'ch dewis chi.

Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio'n ofalus i'ch galluogi i ddatblygu'r wybodaeth a'r galluoedd sy'n ganolog i weithio fel therapydd lleferydd ac iaith. Mae natur arloesol rhai o'n hasesiadau wedi ei ganmol gan arholwyr allanol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae graddedigion y rhaglen yn gymwys i ymarfer fel therapyddion iaith a lleferydd (yn amodol ar gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ar ôl graddio).

Mae gan y cwrs enw da ledled y DU, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 95% o'n graddedigion wedi'u cyflogi mewn swyddi Therapi Lleferydd ac Iaith chwe mis ar ôl gorffen y cwrs. Mae galw am therapyddion lleferydd ac iaith yn y GIG ac yn y Gwasanaeth Addysg..

Gellir dod o hyd i wybodaeth am gyflogau cyfredol yma:http://www.nhscareers.nhs.uk/working-in-the-nhs/pay-and-benefits/agenda-for-change-pay-rates/.(Mae therapyddion lleferydd ac iaith sydd newydd gymhwyso yn cychwyn ym Mand 5).

Mae cyfleoedd ar gael i therapyddion iaith a lleferydd mewn ysbytai, canolfannau iechyd, ysgolion ac unedau arbenigol. Gall graddedigion hefyd ddewis symud ymlaen i astudio a / neu ymchwil yn ôl-raddedig yn yr adran. Mae rhai clinigwyr yn cael eu cyflogi gan sefydliadau elusennol neu'n ymgymryd â phractis preifat. Mae yna hefyd gyfleoedd i weithio dramor

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi pasio o leiaf pum TGAU ar radd C neu'n uwch i gynnwys Iaith Saesneg & Gwyddoniaeth ac o leiaf gradd B neu'n uwch mewn Mathemateg *. Ar gyfer ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr, mae gradd 5 yn cyfateb i radd B. Mae TGAU iaith dramor yn ddymunol. Yn ogystal â hyn, rhaid bod gan ymgeiswyr un o'r canlynol:

  • Gradd academaidd (o leiaf 2.2) wedi ei chwblhau ddim mwy na deng mlynedd yn ôl
  • Tair Safon Uwch, mewn tri maes pwnc sy'n amlwg ar wahân, gyda graddau ABB. Mae'n ddymunol, ond nid yn hanfodol, bod un neu fwy o'r rhain yn wyddoniaeth (h.y. bioleg, cemeg, ffiseg neu fathemateg) a'u bod yn bynciau academaidd. Dim ond fel un gradd Safon Uwch y bydd Gwobr Dwbl Safon Uwch mewn unrhyw bwnc yn cael ei gyfrif.
  • Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch, derbynir isafswm o radd B ynghyd â thair Safon Uwch mewn tri maes pwnc sy'n amlwg ar wahân, gyda graddau BBB. Mae'n ddymunol, ond nid yn hanfodol, bod un neu fwy o'r rhain yn wyddoniaeth (h.y. bioleg, cemeg, ffiseg neu fathemateg) a'u bod yn bynciau academaidd.
  • Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF / Diploma Technegol Caergrawnt, yn ddelfrydol gyda graddau DDD, er y gellir ystyried DDM. Yn dibynnu ar y pwnc a astudiwyd a chryfder y cymhwysiad cyffredinol.
  • Graddau 'Advanced Higher' yr Alban ar lefel BCC. Mae'n ddymunol, ond nid yn hanfodol, bod un neu fwy o'r rhain yn wyddoniaeth (h.y. bioleg, cemeg, ffiseg neu fathemateg) a'u bod yn bynciau academaidd.
  • ‘Irish Leaving Certificate’ Lefel Uwch gydag isafswm o 2 x H2 a 2 x gradd H1 ar lefel Uwch. Mae'n ddymunol, ond nid yn hanfodol, bod un neu fwy o'r rhain yn wyddoniaeth (h.y. bioleg, cemeg, ffiseg neu fathemateg) a'u bod yn bynciau academaidd.
  • Mynediad at Ddiploma Addysg Uwch mewn Gwyddoniaeth neu Nyrsio / Gofal Iechyd i gynnwys o leiaf 30 credyd gyda Rhagoriaeth a'r credydau sy'n weddill gyda Theilyngdod. Bydd proffil academaidd blaenorol ymgeisydd hefyd yn cael ei ystyried.

Nodwch ei fod yn ofyniad proffesiynol bod pob ymgeisydd sy'n siarad Saesneg fel ail iaith feddu ar Saesneg yn ddigonol, gyda sgôr IELTS o 7.5, gydag o leiaf 7 ym mhob elfen.

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy'n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd.

Yn anffodus, oherwydd niferoedd cyfyngedig, ni ellir gwarantu lle i ymgeiswyr sy'n dewis y brifysgol fel dewis Yswiriant..

FI gael gwybodaeth benodol am ofynion mynediad neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu edrychwch ar dudalen Chwilio am Gwrs UCAS.. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o’r UE trwy glicio yma..

Ar gyfer darpar fyfyrwyr sy'n gwneud cais o fewn pum mlynedd ar ôl gorffen ysgol, mae'n ofynnol eu bod wedi cwrdd â'r gofynion gadael ysgol yn ychwanegol at unrhyw gymwysterau eraill sydd ganddynt.

FAr gyfer pob ymgeisydd, mae angen tystiolaeth o astudiaeth academaidd lwyddiannus ar lefel gydnabyddedig cyn-brifysgol (e.e. Lefel(au) A perthnasol neu gwrs Mynediad) yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a dylid darparu geirda academaidd ar y ffurflen UCAS. Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau a nodwyd uchod, gan gynnwys y rhai â chymwysterau tramor, yn cael eu hystyried yn unigol. Os na chrybwyllir y cymhwyster sydd gennych yma cyfeiriwch at wefan UCAS.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Gan nad yw'n bosibl darparu lleoliadau i fyfyrwyr o'r tu allan i'r UE, nid yw'n bosibl ystyried myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y rhaglen yma.
.

Y Broses o Ddethol a Chyfweliadau
Mae mynediad i'r rhaglen hon ar yr amod bod ymgeiswyr yn llwyddiannus mewn cyfweliad.

SMae'r broses o ddethol ar gyfer cyfweliad yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynir ar ffurflen gais UCAS. Gwahoddir ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r gofynion mynediad i ymgymryd â chyfweliad strwythuredig, sydd wedi'i gynllunio i asesu gwerthoedd un o weithwyr y GIG yn y dyfodol. Yn ogystal, cynhelir asesiad o sgiliau cyfathrebu ymgeiswyr a'u dealltwriaeth o'r proffesiwn.

Gwiriadau DBS a Iechyd Galwedigaethol

Rhaid i bob myfyriwr gynnal gwiriadau imiwneiddio ac iechyd priodol cyn mynediad ac mae angen datgeliad DBS Uwch wedi'i gwblhau. Mae mwy o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael yma: www.cardiffmet.ac.uk/dbs. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am wiriadau iechyd galwedigaethol trwy ymweld â www.cardiffmet.ac.uk/ohq. 

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn ar-lein i UCAS: www.ucas.com. Am wybodaeth pellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.


Bwrsariaeth a Chefnogaeth Ariannol y GIG

I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth y GIG, cliciwch yma..

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â'r tîm rhaglen:
E-bost: SLTAdmissions@cardiffmet.ac.uk


Gellir dod o hyd i’r telerau ac amodau llawn sy’n ymwneud â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.metcaerdydd.ac.uk/terms