Cyrsiau Israddedig

Undergraduate Courses banner image

Yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (CSAD), mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i’ch galluogi chi i wneud dewisiadau ynglŷn â sut rydych am i’ch talent ddatblygu. Gallwch ddewis ffocws busnes yn eich gwaith, canolbwyntio ar fod ar flaen y gad gyda’ch pwnc, neu herio’ch hun i fynd â’ch gwaith i feysydd a chyfeiriadau newydd sbon: unrhyw un o’r rhain neu bob un ohonynt. 

Rydym ni’n rhoi’r cyfle i chi ddysgu sgiliau technegol lefel uwch. Ni allwn weld pam na all myfyriwr tecstilau ddysgu sut i weldio, neu pam na all myfyriwr celfyddyd gain ddysgu pwytho digidol. Chi hefyd fydd yn cael dewis y syniadau mawr yr hoffech eu harchwilio, mewn ffyrdd a fydd yn llywio eich arfer greadigol.

Yn CSAD, ein nod yw bod yn gymuned. Byddwch yn cael digonedd o gyfleoedd nid yn unig i ymgysylltu â phobl yn eich blwyddyn o bob un o’n cyrsiau ond hefyd i weithio ochr yn ochr â myfyrwyr o flynyddoedd eraill neu ar raglenni ôl-radd ac ymchwil. Mae ein stiwdios yn ofodau agored, ble gallwch weithio fel unigolyn, ond gweld pob math o waith yn cael ei ddatblygu.